Holiadur CRhT |
Mae'n hanfodol bwysig cael barn sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli neu ddefnyddio'r morlin, ynghyd â'r cymunedau sy'n byw ar hyd yr arfordir, wrth ddatblygu CRhT ar gyfer y morlin. Mae'r agwedd at ymgysylltu â'r buddiannau hyn yn ail genhedlaeth CRhT yn cydnabod hyn. Cyfnod cyntaf CRhT2 oedd ymgymryd â chylch dechreuol o ymgynghori trwy daflen a holiadur. Yna bydd materion ac amcanion sy'n cael eu codi yn ystod yr ymgynghoriad dechreuol hwn yn cael eu crynhoi'n gyfres o dablau. Bydd y materion ac amcanion yn cael eu hystyried wrth ddatblygu drafft CRhT2. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech ddychwelyd yr holiadur hyd yn oed os nad ydych yn dymuno rhoi sylwadau ar y Cynllun Rheoli Traethlin nawr. Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ac yn eich cynnwys mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal digwyddiadau amrywiol yn ystod y proses datblygu Cynllun (a fydd yn cymryd tua 2 flynedd) ac yn gwahodd unrhyw un â ddiddordeb i fod yn bresennol. ID: 43 Adolygwyd: 15/10/2012
|
Member Organisations
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |