Croeso i wefan Cynllun Rheoli Traethlin De Cymru |
Mae Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT) yn rhoi asesiad, ar raddfa fawr, ar y peryglon sy'n gysylltiedig â phrosesau'r arfordir sy'n arwain at erydu a llifogydd. Mae hefyd yn cynnig fframwaith polisi er mwyn lleihau'r peryglon hyn i bobl ac i'r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol. Bydd yn gwneud hyn mewn modd cynaliadwy. Cafodd CRhT eu llunio ledled y wlad ym mlynyddoedd cyntaf y Mileniwm newydd, ac maent yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Rydym yn gorfod rhoi ystyriaeth i:-
Fe lunnir hyn yn sgil cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig http://www.defra.gov.uk/environment/flooding/policy/guidance/smp.htm ond mae'n rhaid dehongli'r cyfarwyddyd hwn gan ddal sylw ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan y Rhaglen Dulliau Newydd. Nod y Rhaglen Dulliau Newydd yw lleihau'r peryglon trwy:-
Bwriad grŵp yr arfordir yw cynnal adolygiad trylwyr ar y Cynllun Rheoli Traethlin cenhedlaeth gyntaf, a chymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a gesglir wedi hynny a'r amgylchiadau newidiol. Bydd y broses adolygu yn arwain at un cynllun integredig newydd ar gyfer yr arfordir y mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol amdano yn ardal y Cynllun. Bydd y broses adolygu'n cynhyrchu un cynllun cyfun newydd ar gyfer morlin yr awdurdodau lleol yn ardal y Cynllun gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Aelodau eraill y Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Network Rail a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Royal Haskoning yn paratoi ail genhedlaeth Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru ar ran Grŵp Arfordir Bae Ceredigion a Grŵp Arfordir Ynys Enlli i'r Gogarth ID: 8 Adolygwyd: 16/6/2015
|
Member Organisations
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |